Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2017
Amser:
09.17 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4332
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Dai Lloyd AC David Melding AC Simon Thomas AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Merlin Hyman, Regen South West Robert Proctor, Community Energy Wales Holly Cross, Cwm Arian Renewable Energy Benedict Ferguson, Community Energy in Pembrokeshire Grant Peisley, Cyd Ynni Jenny Wong, Cyd Ynni |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Louise Andrewartha (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig a chytunwyd i gynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor y gwanwyn.
Trafododd yr Aelodau’r ymweliad a chytunodd i gadw mewn cysylltiad â phwyllgorau cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC.
Croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AC i'r Pwyllgor a diolchodd i Jenny Rathbone AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
Cyflwynodd Merlin Hyman a Robert Proctor eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.
Cyflwynodd Benedict Ferguson, Holly Cross, Grant Peisley a Jenny Wong eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.
Nododd yr Aelodau y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch y canlynol:
- Dadelfennu targedau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol i'r lefel leol
- Cynyddu’r gefnogaeth i Ynni Lleol a rhoi sicrwydd hirdymor iddo.
- Egluro'r trothwyon a'r cymhwyster ar gyfer esemptiadau Ardrethi Busnes ar gyfer prosiectau ynni cymunedol
- Pa un a yw'n bwriadu cyhoeddi, yn flynyddol, faint o ynni cymunedol sy'n cael ei gynhyrchu gan awdurdodau lleol.